Tafran y Black Boy
- Llefydd i Aros (159)
- Gwely a Brecwast (53)
- Gwestai (47)
- Llefydd i Fwyta (50)
- Bwytai (18)
- Tafarndai (24)
- Gwestai (3)
Trosolwg
Yn Nhafarn y Black Boy, Caernarfon yng Ngogledd Cymru, rydym wedi bod yn cynnig llety a bwyd o’r radd flaenaf am fwy na phum can mlynedd.
Gwybodaeth Gyswllt
Stryd Pedwar a Chwech Caernarfon, Gwynedd LL55 1RWffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn01286 673604
Gwefan: http://www.black-boy-inn.com

Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Mae’r dafarn wedi’i lleoli yng nghanol Tref Fwrdeistref Frenhinol Caernarfon, o fewn muriau canoloesol y dref, ac mae gan y gwesty ddigonedd i’w gymeradwyo gyda thanau agored tanbaid, distiau derw a’r holl gymeriad Cymreig sy’n nodweddiadol o’i oed a’i leoliad.
Dim ond munud i ffwrdd ar droed mae castell enwog Caernarfon sy’n dyddio o’r 13eg ganrif; Safle Treftadaeth Byd godidog sy’n llawn presenoldeb. Naw can llath ymhellach draw mae man cychwyn Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n mynd â chi ar daith drwy olygfeydd rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’n hawdd iawn cyrraedd Tafarn y Black Boy mewn cerbyd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ystafel sengl
Mae gan ein hystafell wely sengl gyfleusterau ymolchi a lle cyffyrddus i un person. Ceidw holl hynodrwydd hanesyddol Tafarn y Black Boy, gan gynnig popeth at wasanaeth y teithiwr blinedig. Mae dillad gwely moethus a mynediad band eang i’r we ymhlith rhai o’r cysuron y gallwch eu mwynhau.
Ystafell ddwbl
Yn Nhafarn y Black Boy, mae gan bob un ystafell wely gyfleusterau ystafell ymolchi a’i chymeriad ei hun. Er ein bod wedi diweddaru’r ystafelloedd i safon uchel, rydym wedi ceisio cadw eu cymeriad a’u hawyrgylch unigryw drwy ddefnyddio deunyddiau adeiladu lleol a thraddodiadol, dodrefn o waith llaw a ffitiadau da.
Pedwar postyn
Pam lai? Sbwyliwch eich hun! Mae ein hystafell wely 4 postyn yn berffaith ar gyfer achlysur arbennig gan gynnig awyrgylch gwirioneddol unigryw; ac mae’n creu atgofion bythgofiadwy a ddaw â chi yn ôl i Ogledd Cymru dro ar ôl tro.
Ystafell foethus
Mae gan bob un o’n hystafelloedd moethus y nodweddion cyfnod a’r manteision sydd yn ein hystafelloedd sengl a dwbl ensuite, ond gydag awyrgylch mwy moethus. Bydd gennych ystafell fwy gyda mwy o le i ymlacio. Gallwch fwynhau cyfuniad o gysuron modern a holl nodweddion digyfnewid y dafarn hanesyddol hon.
Bwyta
Yn Nhafarn y Black Boy, hoff dafarn y bobl leol, rydym yn cynnig cyfoeth o ddewis a blasau i’r rhai sydd am giniawa yma. Gan ddibynnu ar eich hwyliau, eich chwaeth neu’r achlysur gallwch ddewis rhwng bwydlen a la carte a’n bwrdd sialc o brydau tymhorol arbennig.
Mae’r prif gogydd, Martyn Rae, a’i dîm, yn ymfalchïo mewn paratoi cynhwysion o safon mewn ffordd gelfydd ond di ffwdan, gyda hoffter mawr o ddefnyddio bwyd môr ffres ac ymrwymiad i ddefnyddio’r cynnyrch organig Cymreig a lleol gorau.





