Health and Sports Physiotherapy
Trosolwg
Tîm o glinigwyr hyddysg sy’n arbenigo ar driniaethau sgerbydol a chyhyrol, yn ogystal ag anafiadau chwaraeon
Gwybodaeth Gyswllt
Bannatynnes Health Club Parc-Ty-Glas Llanishen, Caerdydd CF14 5DUffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn02920 214 600
ffacs: cliciwch yma i weld y rhif ffacs02920 763 111

Disgrifiad
Sefydlwyd Health and Sports Physiotherapy ym Mehefin 2008 gan Daniel Jones, gan gynnig i’r cyhoedd tîm o glinigwyr hyddysg sy’n arbenigo ar driniaethau sgerbydol a chyhyrol, yn ogystal ag anafiadau chwaraeon. Mae pob un o’r Clinigwyr yn ffisiotherapydd siartiedig sy wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Meddygol. Mae hyn yn gwarantu safon uchel o ofal i’r cleientiaid.
Wedi ei leoli yng Ngogledd Caerdydd, mae gan y clinig ystafell ymgynghori breifat sy wedi ei gosod ynghanol Clwb iechyd gydag adnoddau da. Mae’r triniaethau a gynigir yn cynnwys tylino’r asgwrn cefn, acupuncture er gwaredu poen, therapielectro, tylino’r cyhyrau a chynlluniau adfer sydd wedi eu cynllunio er mwyn cael y canlyniadau clinigol gorau.
Mae pob un o ‘n ffisiotherapyddion yn ymwybodol o lefelau gwahanol Unigolion sy’n cymryd rhan mewn Chwaraeon yn y gymdeithas gyfoes ac rydym yn trin pob cleient fel unigolyn. Boed yn Athletwr elite neu’n chwaraewr ar y lefel isaf neu’n unigolyn sy’n dioddef o sumtomau a phoen cyson – yr un yw ein bwriad wrth eich trin.
Oriau gwaith
Llun - Gwener 8:00 y.b. - 8:00 y.h.
Sadwr 9:00 y.b - 2:00 y.h.
Lleoliadau
Caerdydd


