Welsh English

Brodyr Jones Henllan

Trosolwg

Peirianwyr Sifil yn gweithio i awdurdodau lleol a chwmnioedd preifat ar draws gorllewin a de Cymru. Rydym yn cynllunio ac adeiladu gan arbenigo mewn trin tir wedi ei lygru.

Gwybodaeth Gyswllt

Heol Parc Mawr Parc Busnes Crosshands Crosshands, Sir Gaerfyrddin SA14 6RE

ffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn01269 844275

Disgrifiad

Mae gennym 30 mlynedd o brofiad mewn peirianaeth sifil a heddiw adwaenir Brodyr Jones Henllan drwy Gymru nid yn unig am ein gwaith yn y maes hwnnw ond hefyd mewn adferiad a thriniaeth tir wedi ei lygru, gwaith amgylcheddol a meysydd chwarae.

Wrth weithio gydag awdurdodau lleol, asiantaethau llywodraeth, cwmniau cyhoeddus a phreifat, peirianwyr ymgynghorol ac ymgynghorwyr yr amgylchedd, rydym wedi cael enw da am ddod â datrysiadau effeithiol a blaengar i'r bwrdd mewn amrywiaeth o prosiectau.