|
Cyfle arbennig i chi rannu eich lluniau, ac ar yr run pryd mae’n gyfle i ennill gwobr y mis.
Rydym yn rhoi cyfle arbennig i chi rannu eich lluniau gyda defnyddwyr gwefan Lleol.net, ac ar yr run pryd mae’n gyfle i ennill gwobr y mis. Ar ddiwedd pob mis, bydd y lluniau’n cael ei beirniadu gan Betsan Evans, ffotograffydd proffesiynol o gwmni Celf Calon. Bydd enillydd y mis yn derbyn y llun wedi ei argraffu’n broffesiynol ar gynfas. Yna, bydd enillydd pob mis yn mynd ymlaen i gystadlu yn llun y flwyddyn gydag enillwyr y misoedd eraill.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich lluniau. Anfonwch eich lluniau atom ni
1. Anfonwch eich lluniau at lluniau@lleol.net. Dim ond 2 gais fesul person, y mis a ganiateir.
2. Dylech gynnwys manylion byr y llun/iau.
3. Nodwch ‘Lluniau Lleol’ yn y maes pwnc.
Cofiwch, drwy gyflwyno llun(iau) rydych yn cadarnhau eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau isod.
Amodau a thelerau ar gyfer cyflwyno lluniau i Lleol.net
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i drigolion yng Nghymru, sy'n 18 oed neu'n hŷn.
2. Mae'r holl wybodaeth a manylion am sut i gystadlu yn y gystadleuaeth hon yn rhan o'r amodau a’r telerau hyn. Mae'n amod bod yr holl reolau’n cael eu derbyn yn derfynol a bod y cystadleuydd yn cytuno i gadw at y rheolau hyn. Mae penderfyniad y beirniad yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth. Mae’r ffaith eich bod yn cyflwyno llun yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn.
3. Dylai'r ceisiadau gael eu cyflwyno drwy e-bostio lluniau@lleol.net. Rhaid i geisiadau gael eu labelu gydag enw'r cystadleuydd a manylion byr y llun. Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau trwy'r post.
4. Rhaid i bob cais gael ei dderbyn cyn amser cau'r hysbyseb, sef diwrnod olaf y mis.
5. Rhaid i'r holl luniau a gyflwynir fod o waith y cystadleuydd, ac ni ddylent fod wedi cael eu cyhoeddi mewn man arall, neu fod wedi ennill gwobr mewn unrhyw gystadleuaeth ffotograffiaeth arall. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau bod unrhyw luniau sy’n cael eu cyflwyno wedi cael eu cymryd gyda chaniatâd ac nid ydynt yn torri hawlfraint unrhyw drydydd parti neu unrhyw ddeddfau. Rhaid i gystadleuwyr warantu mai eu gwaith nhw eu hunain yw’r lluniau maent yn eu cyflwyno a’u bod yn berchen ar yr hawlfraint ar eu cyfer.
6. Does dim modd cofrestru llun mewn mwy nag un cystadleuaeth y mis.
7. Bydd hawlfraint pob llun a gyflwynwyd ar gyfer y gystadleuaeth hon yn parhau i fod gyda'r cystadleuwyr priodol.
8. Dim ond 2 gais fesul person, y mis a ganiateir. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau drwy asiantaethau neu drydydd parti.
9. Bydd yr enillydd yn cael gwybod o fewn saith diwrnod i ddyddiad cau'r gystadleuaeth.
|


