Welsh English

Ydych chi eisiau Mentro?

gan lleol.net on 20/04/2012 - 02:22 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae Mentro sef Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.
 
Mae Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae Mentro hefyd yn helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.
 
Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru ...

darllenwch mwy

Rapsgaliwn a Mistar Urdd yn ennill yn...

gan lleol.net on 20/04/2012 - 07:01 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae dau o gymeriadau plant poblogaidd wedi derbyn anrhydedd yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2012.
 
Daeth y cyfeillion, Rapsgaliwn a Mistar Urdd i’r brig yn y categori Ymgyrch Marchnata gyda’r fideo newydd o’r gân Hei Mistar Urdd.
 
Roedd y fideo wedi ei chreu er mwyn hyrwyddo rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011, ac yn brosiect ar y cyd rhwng adran farchnata S4C, y cwmni cynhyrchu Boomerang a mudiad yr Urdd.
 
Mae Hei Mistar Urdd wedi bod yn anthem i genedlaethau o blant ers iddo gael ei ryddhau gyntaf yn 1976. Cyfanoddwr y gân wreiddiol oedd Geraint Davies, cyn aelod o’r grŵp gwerin Hergest a cherddor gyda Mynediad am Ddim. ...

darllenwch mwy

Canolfan Mileniwm Cymru ar Grwydr

gan lleol.net on 16/04/2012 - 03:05 pm
Categori: Celfyddydau

Haf yma bydd y Ganolfan yn teithio ledled Cymru gyda’i chynhyrchiad newydd Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco. Mae hi’n ddrama safle-benodol sy’n dilyn pum crwt ifanc un haf wrth iddyn nhw gicio’u sodlau mewn parc ar stad o dai yng Nghwm Tawe. Mae hi’n 1983 ac mae’r gamp o fwrw bronco - sef sefyll ar swing, ei wthio mor galed â phosib cyn cicio’r sedd dros y bar a neidio’i ffwrdd yr un pryd - yn llenwi bob un amser chwarae. Mae ffaelu yn y dasg yn anfaddeuol i’ch cyfoedion, ac oni bai am un digwyddiad ysgytwol byddai’r haf yma wedi bod fel bob un o’i flaen...

 

 

 
Llun gan Farrows Creati ...

darllenwch mwy

Y Lolfa yn trosglwyddo blog i ffurf l...

gan lleol.net on 10/04/2012 - 03:19 pm
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Blog gan Elliw Gwawr - Paned a Chacen

Nawr mae’n rhaid i fi ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi bod ychydig yn dawel ar y blog yma yn ddiweddar. Ond mae yna reswm (mae’r cliw yn y teitl!) Ie dwi’n sgwennu llyfr ryseitiau Paned a Chacen. Dwi mor ecseitied!
 
Dwi methu coelio’r peth a dweud y gwir, ond roedd y criw hyfryd yn y Lolfa yn licio’r blog cymaint fel eu bod nhw eisiau ei drosglwyddo i ffurf llyfr. Wrth gwrs fydd y llyfr ddim yn cymryd lle’r blog, ond dwi’n gobeithio y bydd o’n estyniad ohono, fydd yn cynnig nifer o ryseitiau newydd, yn ogystal â rhai o’r ffefrynnau o’r blog yn barod.
 
Fel y ...

darllenwch mwy