Rhaglenni dros y Nadolig ar S4C
gan lleol.net
on 21/12/2011 - 11:18 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Rhagflas rhai o raglenni'r Dolig ar S4C, gan gynnwys Noson Lawen Ieuenctid, Pobol y Cwm, Sioe Dolig Tudur Owen, Dim Byd, Cariad@Iaith:Love4Language, Dudley: Pryd o Ser, Jonathan, Seren Nadolig Rhos, Mel a Nia, Rhydian, Only Men Aloud a mwy.
Gwefan S4C
Dim.Cymru
gan lleol.net
on 19/12/2011 - 10:06 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion
Neges gan Maredudd ap Gwyndaf Cyfarwyddwr, dotCYM
Gyda thristwch cysylltaf â chi heddiw i’ch hysbysu y bydd dotCYM Cyf. mwy na thebyg ddim yn gallu ceisio am barth lefel-uchaf (PLU) .cymru ar gyfer Cymru. Yn hytrach na gweithio gyda dotCYM i greu cais cryf am barth lefel-uchaf i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cwmni o Rydychen sy’n rhedeg parth .uk, Nominet, i ddod i Gymru i gystadlu yn erbyn dotCYM am gefnogaeth y Llywodraeth, gan adael iddo ladd y gystadleuaeth leol a gwarchod ei monopoli o’r farchnad parthau yn y DU. Ers 9fed Rhagfyr mae gwahoddiad cyhoeddus i unrhyw gwmni i gystadlu am berchnogaeth a rheolaeth dros yr enw Cymreig ar-lein (http://sell ...
Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers a...
gan lleol.net
on 16/12/2011 - 05:28 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers am y sioe Y Coblynnod a’r Cryddion
Mae Sherman Cymru’n dod yn ôl i’r Stiwdio dros y Nadolig gyda’u cynhyrchiad olaf cyn iddyn nhw ail agor eu drysau ddechrau 2012 ar ôl 18 mis o waith ailddatblygu.
Mae Nadolig yr hen wneuthurwyr esgidiau yn mynd i fod yn hir ac yn oer. ‘Does dim bara yn y tŷ, dim pren i’w roi ar y tân a dim arian i brynu anrhegion. Ond mae dau o’r corachod bychain yn cael syniad - ac mae un darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau. Gyda phinsiad o hud arbennig mae’r rhod ar droi - er gwell. Mae dawn Sherman Cymru o a ...
Cyfle i ennill 4 tocyn i weld Y Cobly...
gan lleol.net
on 12/12/2011 - 10:32 pm
Categori: Cystadlaethau, Newyddion
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig cyfle i deulu ennill 4 tocyn i weld Y Coblynnod a’r Cryddion ar 20 Rhagfur.
Fel anrheg Nadolig cynnar gan y Ganolfan, mae’n gyfle i’r teulu mwynhau clasur o ddrama tylwyth teg dros yr ŵyl. Gyda cherddoriaeth fyw a phypedau, bydd sioe newydd Sherman Cymru Y Coblynnod a’r Cryddion yn sicr o blesio’ch rhai bach - ac rydyn ni wedi clywed bod ambell riant wedi mwynhau hefyd.
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 16 Rhagfur.
I gystadlu, rhowch eich enw, e-bost a'ch rhif ffôn yn y blychau islaw.


