Clasur a’r cyfoes yng Nghanolfan Mile...
gan lleol.net
on 19/05/2012 - 03:42 pm
Categori: Celfyddydau
Cyfunwch y clasur o ffilm gan Universal Pictures o 1931 gyda Béla Lugosi a pherfformiad byw o’i sgôr i’r ffilm ac fe gewch brofiad newydd o Dracula ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar 27 Mai. Yn ogystal â gweld y ffilm fawreddog ar y llwyfan bydd y Kronos Quartet ac un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes, Philip Glass yn perfformio. Am ragor o fanylion cliciwch yma.
Ar 28 Mehefin bydd rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y DU yn perfformio yn y Ganolfan, gyda darnau dawns wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Gyda dawnswyr sy’n rhagori yn eu maes, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, English National Ballet a Scottis ...
Arbenigedd yn yr Angel
gan lleol.net
on 15/05/2012 - 05:25 pm
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Yn sgil llwyddiant ysgubol y digwyddiad Rhwydweithio Rhwydd a gynhaliwyd yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar, cynhaliwyd ail rownd yn yr Angel, Llandeilo, ar 9 Mai ar gyfer grŵp newydd o entrepreneuriaid ifanc Sir Gâr.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Tomas Marks a Linda Morris o’r prosiect Mentro. Caiff Mentro ei redeg gan Fenter Bro Dinefwr ac mae’n rhan o brosiect Entrepreneuriaeth Wledig Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr*, sy’n darparu cymorth busnes am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Trefnwyd y digwyddiad i roi cyfle i rwydweithio ac er mwyn i bobl busnes y dyfodol gael cyngor gan fusnesau sefydledig.
Rhoddwyd 4 munud i’r entrepreneuri ...
Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012
gan lleol.net
on 11/05/2012 - 10:28 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion
"Naw cyfrol … yn tystio'n groyw i amrywiaeth iach o leisiau, dulliau, safbwyntiau a gweledigaethau llenyddol." (Jason Walford Davies)
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru pha naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 mewn digwyddiad arbennig yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu nos Iau 10 Mai 2012.
Barddoniaeth
Yn dilyn y drefn newydd o Restr Fer mewn categorïau, mae tair cyfrol o farddoniaeth, tair cyfrol ffuglen a thair cyfrol Ffeithiol Greadigol wedi dod i’r brig eleni (Rhestr Saesneg isod). Y tair cyfrol farddoniaeth yw Siarad Trwy’i Het gan Karen Owen (Cyhoeddiadau Barddas), casgliad o gerddi a ffoto ...
Yn galw holl animeiddwyr ifanc!
gan lleol.net
on 10/05/2012 - 09:19 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Ydych chi’n animeiddiwr talentog sy’n gallu creu animeiddiad trawiadol? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am animeiddwyr talentog i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar-lein i gynhyrchu animeiddiad byr (unrhyw dechneg, unrhyw arddull) i farchnata arddangosfa fawr nesaf y Llyfrgell ar hanes cyfathrebu.
Dylai’r animeiddiad amlygu crynodeb o hanes cyfathrebu o’r dulliau cynharaf hyd at yr oes ddigidol gan gofio cerrig milltir allweddol, megis chwyldro’r iaith lafar, hieroglyffau, signalau mwg, darganfyddiad y telegraff, y ffôn, y radio a’r teledu trwodd i dechnoleg gyfrifiadurol, y We Fyd-eang a’r cyfryngau cymdeithas ...


