Welsh English

Canlyniadau Chwilio yn categori Bwyd

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 10 cofnodion | Tudalen 1 o 1

Ydych chi eisiau Mentro?

gan lleol.net on 20/04/2012 - 02:22 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae Mentro sef Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.
 
Mae Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae Mentro hefyd yn helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.
 
Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru ...

darllenwch mwy

Dathlu Dwynwen

gan lleol.net on 24/01/2012 - 10:14 pm
Categori: Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Newyddion

Bydd Menter Caerdydd yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen mewn nifer o ffyrdd eleni - dyma flas o'r gweithgareddau!Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!DWYNWEN-O-GRAMBeth am ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen eleni trwy ddanfon Dwynwen-o-Gram i'ch gwr, gwraig neu gariad?I enwebu, ebostiwch leanne@mentercaerdydd.org gan nodi pwy sy'n haeddu'r Dwynwen-o-gram a pham!Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn tusw o flodau a photel o champagne ar Ionawr y 25ain.Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Llun, Ionawr 23, 2012.CARDIAU SANTES DWYNWENBydd Dwynwen a rhai o staff y Fenter yn dobsarthu cardiau yn y mannau canlynol ar Ddiwrnod Santes Dwtynwen, Dydd Mercher, Ionawr 2510.15am Asda Lecwydd12pm Siop Ann Summe ...

darllenwch mwy

Pryd delfrydol i’w rannu gyda rhywun ...

gan lleol.net on 24/01/2012 - 02:44 pm
Categori: Bwyd

Cig Oen Bys a Bawd gyda Saws Bara Lawr a Pherlysiau

Dwy rag cig oen Cymru (wedi’u torri yn eu hanner)
1 llond llaw fawr mintys ffres
1 llond llaw fawr persli ffres
1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
1 llond llwy bwdin caprys bach
6 cornichon
3 llond llwy fwrdd olew olewydd
Croen 2 lemon a sudd 1 lemon
1 llond llwy bwdin bara lawr ffres neu o dun
4 llond llwy fwrdd briwsion bara
1 llond llwy fwrdd olew
15g menyn

Dull:

Cynheswch y ffwrn i 200°C/400°F/Nwy 6.
Torrwch linell trwy fraster y cig a’i sesno’n dda.
Seriwch y cig mewn ffreipan wrthlynu boeth nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch o’r ffwrn a’i adael ...

darllenwch mwy

Beth yw eich addunedau blwyddyn newyd...

gan lleol.net on 05/01/2012 - 12:51 am
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Chwaraeon, Newyddion

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 

 

 

 

 

Wedi cael digon o fwyta twrci? Beth a...

gan lleol.net on 28/12/2011 - 04:53 am
Categori: Bwyd

Diolch i Sioned Mills - Sgwennu Llefenni am y Blog yma:
 
Unwaith eto, dwi heb fod yn blogio ers sbel, ymddiheuriade! Ond, mae’r dyddiadur bwyd dal yma er mod i ddim ddigon dewr i gyhoeddi llawer, fel esiampl mae na drychineb pobi go iawn yn dod yn y post nesa!
 
Dyma nhw y burgers cartref, post anhymorol arnai ofn, ond blasus tu hwnt. Sori o flaen llaw i’r llysieuwyr sy’n darllen, sgipiwch y post yma.
 
Heno benderfynon ni hitio’r eidion cyn y wledd Nadolig. Mae hyn i gyd wedi imi wedi cael blas go iawn ar burgers di’w coginio yn eitha amrwd yn Gourmet Burger Kitchen  yn y brifddinas (mae na ddau gangen!). Mae’r rhai yn GBK yn d ...

darllenwch mwy

Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Pice l...

gan lleol.net on 05/12/2011 - 09:58 pm
Categori: Bwyd

Pice llugaeron a siocled gwyn
 
Twist ar y rysait traddodiadol yw hwn a gallwch ddefnyddio cynhwysion eraill fel cnau coco a jam yn y canol, siolced tywyll ac oren, cnau pistachio a lemon ayyb. Mae’r opsiynau yn hirfaeth!
 
Cynhwysion
225g blawd codi
Pinsiad o halen
110g menyn
50g siwgr gwyn mân
50g llugaeron sych
75g siocled gwyn wedi dorri’n fân
1 wy mawr wedi’i guro
Ychydig o laeth os oes angen i gymysgu
 
Dull

Hidlwch y blawd a’r halen i bowlen gymysgu a rhwbiwch y menyn i’r gymysgedd tan ei bod yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y siwgr, llugaeron a’r siocled gwyn a chymysgwch i wasgaru’r cynhwys ...

darllenwch mwy

Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Stwffi...

gan lleol.net on 05/12/2011 - 10:03 pm
Categori: Bwyd

Stwffin cnau castan a pherlysiau
 
Digon i lenwi gwydd mawr neu dwrci cymedrol
 
Cynhwysion
1 winwnsyn mawr
100g o fenyn heb ei halltu
Halen a phupur
100g cig moch wedi’i fygu neu pancetta
1 clwstr o berllys, wedi’u dorri
1 clwstr o saig, wedi’u dorri
250g briwsion bara
1 wy mawr
150g cnau castan, wedi’i coginio a thorri’n darnau bach
Croen 1 oren wedi’i gratio
 
Dull

Torrwch y winwns yn fân iawn a choginiwch yn y menyn am 15 munud dros wres cymhedrol.  Ychwanegwch y cig moch a choginiwch am 10 munud cyn rhoi’r gymysgedd mewn bowlen gyda’r perllys, saig a’r briwsion a’i gymygsu’n ...

darllenwch mwy

Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Y twrc...

gan lleol.net on 04/12/2011 - 02:59 pm
Categori: Bwyd

Y twrci rhost perffaith
Digon i 8-10
 
Cynhwysion
1 twrci yn pwyso 10-12lb
6L o ddwr
150g halen mor
1 oren, wedi’i dorri’n gwarteri
12 clôf
2 seren anise
1 darn o sinsir ffres
110g mêl clir
2 llond llaw o teim ffres
1 winwns, wedi’i dorri’n gwarteri
125g menyn heb ei halltu
6 deilen llawryf
 
Dull
Golchwch y twrci tu fewn a thu allan a’i bwyso cyn ei rhoi i fwced neu gynhwysydd digon mawr i’w ddal gyda 6 litr o ddwr.
 
Twymwch 2 litr o’r dwr ynghyd â’r speisys, mêl, halen a 4 deilen llawryf tan bod yr halen a’r mêl wedi toddi.  Gadewch i oeri cyn ychwanegu gweddill y dw ...

darllenwch mwy

Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Gwin P...

gan lleol.net on 02/12/2011 - 09:28 pm
Categori: Bwyd

Gwin Poeth Sbeislyd

Cynhwysion
 
700ml o ddŵr
110g siwgr brown
1 potel o win coch
1 oren
1 lemwn
1 llawryf
6 cardamom wedi’u malu
6 clôf
1 seren anise
1 ffon sinamon
 
Dull

Rhowch y dŵr a’r siwgr mewn sosban mawr a toddwch y siwgr dros wres cymhedrol.  Clymwch y cardamom, clôfs, seren anise a’r llawryf mewn mwslin ac ychwanegwch i’r dwr gyda’r ffon sinamon a gadewch i fwydo am 10 munud. 
 
Tynnwch y croen oddi ar y ffrwythau gan osgoi y gwyn ac ychwanegwch i’r dŵr.  Arllwyswch y gwin a gadewch i dwymo yn raddol, heb ferwi, am tua 40 munud. 
 
Torrwch y ffrwythau yn ddarnau ac ychw ...

darllenwch mwy

Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Mins p...

gan lleol.net on 02/12/2011 - 09:41 pm
Categori: Bwyd

Mins peis Penderyn gyda macarwn
 
Dyma un o’n hoff ryseitiau ar gyfer ‘mins peis’ sydd hyd yn oed yn fwy blasus gyda briwgig cartref! Cadwch lygaid wrth eu coginio i sicrhau bod y crwst wedi’i goginio a’r top heb frownio ormod.  Yr her fydd dim ond bwyta un ar y tro!!
 
Gweini 12
8owns/225g crwst brau
8owns/225g briwfwyd da
2 owns hulif/50ml wisgi Penderyn Single Malt
Croen ½ oren
2 gwyn wy
3owns/175g siwgwr man
4owns/100g cnau almwnd wedi’u malu
Tun cacennau 12 twll wedi’i iro
 
Dull

Rholiwch y crwst a thorrwch 12 siap crwn gyda thorrwr crwst 3”/7.5cm . Defnyddiwch y darnau i leinio’r tun cacen ...

darllenwch mwy