Canlyniadau Chwilio yn categori Arian a Busnes
Wedi darganfod 5 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Arbenigedd yn yr Angel
gan lleol.net
on 15/05/2012 - 05:25 pm
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Yn sgil llwyddiant ysgubol y digwyddiad Rhwydweithio Rhwydd a gynhaliwyd yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar, cynhaliwyd ail rownd yn yr Angel, Llandeilo, ar 9 Mai ar gyfer grŵp newydd o entrepreneuriaid ifanc Sir Gâr.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Tomas Marks a Linda Morris o’r prosiect Mentro. Caiff Mentro ei redeg gan Fenter Bro Dinefwr ac mae’n rhan o brosiect Entrepreneuriaeth Wledig Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr*, sy’n darparu cymorth busnes am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Trefnwyd y digwyddiad i roi cyfle i rwydweithio ac er mwyn i bobl busnes y dyfodol gael cyngor gan fusnesau sefydledig.
Rhoddwyd 4 munud i’r entrepreneuri ...
Ydych chi eisiau Mentro?
gan lleol.net
on 20/04/2012 - 02:22 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae Mentro sef Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.
Mae Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae Mentro hefyd yn helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.
Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru ...
Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth?
gan lleol.net
on 23/01/2012 - 04:16 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360.
Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru.Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘bar camp’… wel…Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siar ...
Beth yw eich addunedau blwyddyn newyd...
gan lleol.net
on 05/01/2012 - 12:51 am
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Chwaraeon, Newyddion
Cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir y...
gan lleol.net
on 23/11/2011 - 06:25 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion
Mae adroddiad gan AA Roadside Recovery Group yn datgan bod y cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir yn dechrau arafu ar ol tair mlynedd o gynnyddion uchel iawn.
Yn y 12 mis i Mawrth 2011 roedd prisiau wedi cynyddu ar gyfertaledd tua 40%, ond yn y 6 mis i diwedd mis Medi 2011 roedd hyn wedi lleihau i fod yn gynnydd o 16%.
Mae Credit Suisse hefyd o’r farn bod cystadleuaeth yn y farchnad yn rhannol gyfrifol am arafu’r cynydd mewn prisiau.
Er yn ol yr ABI ( Association of British Insurers) mae’r sector yswiriant ceir wedi bod yn gwneud colledion pob flwyddyn ers 1994. A gyda chostau hawliadau yn parhau i gynnyddu mae’r sector yn talu allan £1 ...


