Welsh English

Canlyniadau Chwilio yn categori Ar-lein

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 21 cofnodion | Tudalen 1 o 3

Cyfres o NEWID BYD ar S4C yn chwilio ...

gan lleol.net on 30/04/2012 - 04:21 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Wyt ti... ...... yn 17-18 oed?... am fynd tramor? ... am wneud gwahaniaeth?... am NEWID BYD? Mae'r ail gyfres o NEWID BYD ar S4C yn chwilio am 4 ohonoch chi! Fe fyddai cyfle i chi wneud gwaith gwirfoddol pwysig mewn gwlad tramor am 3 wythnos yn ystod yr haf hwn. Adnewyddu ysgol, gweithio gyda phlant amddifad, plannu coed neu fonitro anifeiliaid prin.Diddordeb?
Clicia YMA i lawrlwytho ffurflen gais a'r holl fanylion.01792 824567newidbyd@telesgop.co.ukDyddiad cau: 14.05.12

Ydych chi eisiau Mentro?

gan lleol.net on 20/04/2012 - 02:22 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae Mentro sef Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.
 
Mae Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae Mentro hefyd yn helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.
 
Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru ...

darllenwch mwy

Y Lolfa yn trosglwyddo blog i ffurf l...

gan lleol.net on 10/04/2012 - 03:19 pm
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Blog gan Elliw Gwawr - Paned a Chacen

Nawr mae’n rhaid i fi ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi bod ychydig yn dawel ar y blog yma yn ddiweddar. Ond mae yna reswm (mae’r cliw yn y teitl!) Ie dwi’n sgwennu llyfr ryseitiau Paned a Chacen. Dwi mor ecseitied!
 
Dwi methu coelio’r peth a dweud y gwir, ond roedd y criw hyfryd yn y Lolfa yn licio’r blog cymaint fel eu bod nhw eisiau ei drosglwyddo i ffurf llyfr. Wrth gwrs fydd y llyfr ddim yn cymryd lle’r blog, ond dwi’n gobeithio y bydd o’n estyniad ohono, fydd yn cynnig nifer o ryseitiau newydd, yn ogystal â rhai o’r ffefrynnau o’r blog yn barod.
 
Fel y ...

darllenwch mwy

S4C yn camu mewn i galon cymuned cwmtawe

gan lleol.net on 10/04/2012 - 02:41 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae S4C ar fin cychwyn llu o weithgareddau rhad ac am ddim yn ardal Cwmtawe fel rhan o ymweliad S4C i’r gymuned.
 
Rhwng y 16eg o Ebrill a’r 4ydd o Fai bydd S4C yn rhoi’r cyfle i drigolion Cwmtawe i fwynhau digwyddiadau, personoliaethau a gwasanaethau S4C drwy gynnig blas ar eu rhaglenni. Ymhlith y personoliaethau fydd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnosau fydd cyflwynydd Byw yn yr Ardd,  Russell Jones, cyflwynwyr fersiwn newydd sbon o’r gyfres Sion a Siân, Stifyn Parri a Heledd Cynwal a ffefrynau cast Pobol y Cwm.
 


Bydd y digwyddiadau yn cychwyn ar y 16eg o Ebrill pan fydd cyflwynwyr rhaglen gylchgrawn S4C, TAG, Geraint Hardy ac Elin Llw ...

darllenwch mwy

S4C yn cefnogi ymgyrch ‘.cymru’ a ‘.w...

gan lleol.net on 26/03/2012 - 12:21 pm
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Mae S4C am gefnogi’r ymgyrch i sicrhau’r hawl i greu a defnyddio'r ddau enw parth - '.cymru' a '.wales' ar y we.

Bydd y Sianel yn ymuno â nifer o gyrff a chwmnïau yng Nghymru a thu hwnt sydd bellach yn cefnogi’r ymgyrch.

Bu galw ers rhai blynyddoedd am sicrhau hunaniaeth benodol i Gymru ar y we a rhoi hawl i bobl ddefnyddio’r ‘.cymru’ neu ‘.wales’, yn ogystal â chael defnyddio’r parth ‘.uk’.

Ond nawr, am y tro cyntaf ers 2008, mae ICANN – Internet Corporation for Assigned Names and Numbers - y corff byd-eang sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio enwau parth y rhyngrwyd, wedi gwahodd ceisiadau a ...

darllenwch mwy

Cymro yn denu sylw cyfryngau'r byd

gan lleol.net on 07/03/2012 - 02:39 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae dyn o Gaerfyrddin wedi datrys ei anallu i gwrdd â merched drwy ddefnyddio syniad unigryw ar flwyddyn naid.Roedd ei syniad nid yn unig wedi cael det ym Mharis iddo ond hefyd wedi ennill sylw'r cyfryngau'r byd.Ychwanegodd Andrew Thomas, 35, sydd bellach yn byw yn Llundain, fideo ar-lein yn gofyn i ferched gwrdd ag ef tua allan i Farchnad Spitalfields yn y brifddinas, rhwng 8yb ac 8yh ar 29 Chwefror.Mae'r fideo yn cael bron 30,000 o ymweliadau ar YouTube ac mae’r syniad wedi ei darlledu ar draws y byd.  
 
Yn bwysicaf oll, cafodd 15 cynig i fynd ar det - allan ohonynt dewisodd merch o'r enw Imogen i fynd i Baris.
 
Dwedodd wrth wefan Lleol.net"Roedd yn dd ...

darllenwch mwy

Cyhoeddi strategaeth iaith newydd

gan lleol.net on 01/03/2012 - 06:18 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi strategaeth ddydd Iau er mwyn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.Nod y cynllun iaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd a'r bwriad yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn eu hamser hamdden.Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori gyda nifer o gyrff.Y nod yw sicrhau mwy o ddefnydd o'r iaith yn y gymuned, o fewn teuluoedd, ymysg plant a phobl ifanc, darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion ac annog rhagor o ddefnydd o'r iaith yn y gweithle.Mwy o ddefnyddMae'n ymddangos mai'r pwyslais mwyaf fydd ar annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith yn gymdeithasol."Rydyn ni'n tr ...

darllenwch mwy

Cymro o Gaerfyrddin yn chwilio am gar...

gan lleol.net on 29/02/2012 - 04:31 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae Cymro o Gaerfyrddin wedi dod yn celeb ar y rhyngrwyd ar ôl dod o hyd i ffordd unigryw i ddod o hyd i gariad ym mlwyddyn naid.
 
Mae Andrew Thomas, 35 sy'n byw yn Llundain ond fe'i magwyd yng Nghapel Dewi ger Caerfyrddin, wedi meddwl am gynllun ar ôl methu â dod o hyd i gariad yn Llundain.
 
Mae o wedi creu a phostio fideo ar ei wefan yn gofyn i ferched sydd â diddordeb i gwrdd ag ef heddiw yn Farchnad Spitalfields yn Llundain.
 
Yn y fideo mae’n dweud bod ganddo sypreis,
 
Dywedodd wrth wefan Lleol.net
 
"Nid wyf yn dymuno rhoi gormod i ffwrdd, ond fydd unrhyw un sy'n troi i fyny heddiw yn gorfod gwneud rhywbeth,"
 
...

darllenwch mwy

Dathlu Dwynwen

gan lleol.net on 24/01/2012 - 10:14 pm
Categori: Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Newyddion

Bydd Menter Caerdydd yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen mewn nifer o ffyrdd eleni - dyma flas o'r gweithgareddau!Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!DWYNWEN-O-GRAMBeth am ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen eleni trwy ddanfon Dwynwen-o-Gram i'ch gwr, gwraig neu gariad?I enwebu, ebostiwch leanne@mentercaerdydd.org gan nodi pwy sy'n haeddu'r Dwynwen-o-gram a pham!Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn tusw o flodau a photel o champagne ar Ionawr y 25ain.Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Llun, Ionawr 23, 2012.CARDIAU SANTES DWYNWENBydd Dwynwen a rhai o staff y Fenter yn dobsarthu cardiau yn y mannau canlynol ar Ddiwrnod Santes Dwtynwen, Dydd Mercher, Ionawr 2510.15am Asda Lecwydd12pm Siop Ann Summe ...

darllenwch mwy

Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth?

gan lleol.net on 23/01/2012 - 04:16 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360.

Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru.Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘bar camp’… wel…Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siar ...

darllenwch mwy