Welsh English
Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 32 cofnodion | Tudalen 1 o 4

Clasur a’r cyfoes yng Nghanolfan Mile...

gan lleol.net on 19/05/2012 - 03:42 pm
Categori: Celfyddydau

Cyfunwch y clasur o ffilm gan Universal Pictures o 1931 gyda Béla Lugosi a pherfformiad byw o’i sgôr i’r ffilm ac fe gewch brofiad newydd o Dracula ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar 27 Mai. Yn ogystal â gweld y ffilm fawreddog ar y llwyfan bydd y Kronos Quartet ac un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes, Philip Glass yn perfformio. Am ragor o fanylion cliciwch yma.
 
Ar 28 Mehefin bydd rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y DU yn perfformio yn y Ganolfan, gyda darnau dawns wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Gyda dawnswyr sy’n rhagori yn eu maes, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, English National Ballet a Scottis ...

darllenwch mwy

Arbenigedd yn yr Angel

gan lleol.net on 15/05/2012 - 05:25 pm
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Yn sgil llwyddiant ysgubol y digwyddiad Rhwydweithio Rhwydd a gynhaliwyd yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar, cynhaliwyd ail rownd yn yr Angel, Llandeilo, ar 9 Mai ar gyfer grŵp newydd o entrepreneuriaid ifanc Sir Gâr.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Tomas Marks a Linda Morris o’r prosiect Mentro. Caiff Mentro ei redeg gan Fenter Bro Dinefwr ac mae’n rhan o brosiect Entrepreneuriaeth Wledig Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr*, sy’n darparu cymorth busnes am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Trefnwyd y digwyddiad i roi cyfle i rwydweithio ac er mwyn i bobl busnes y dyfodol gael cyngor gan fusnesau sefydledig.
Rhoddwyd 4 munud i’r entrepreneuri ...

darllenwch mwy

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012

gan lleol.net on 11/05/2012 - 10:28 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion

"Naw cyfrol … yn tystio'n groyw i amrywiaeth iach o leisiau, dulliau, safbwyntiau a gweledigaethau llenyddol." (Jason Walford Davies)
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru pha naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 mewn digwyddiad arbennig yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu nos Iau 10 Mai 2012.
 
Barddoniaeth
 
Yn dilyn y drefn newydd o Restr Fer mewn categorïau, mae tair cyfrol o farddoniaeth, tair cyfrol ffuglen a thair cyfrol Ffeithiol Greadigol wedi dod i’r brig eleni (Rhestr Saesneg isod). Y tair cyfrol farddoniaeth yw Siarad Trwy’i Het gan Karen Owen (Cyhoeddiadau Barddas), casgliad o gerddi a ffoto ...

darllenwch mwy

Yn galw holl animeiddwyr ifanc!

gan lleol.net on 10/05/2012 - 09:19 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Ydych chi’n animeiddiwr talentog sy’n gallu creu animeiddiad trawiadol?  Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am animeiddwyr talentog i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar-lein i gynhyrchu animeiddiad byr (unrhyw dechneg, unrhyw arddull) i farchnata arddangosfa fawr nesaf y Llyfrgell ar hanes cyfathrebu.  
 
Dylai’r animeiddiad amlygu crynodeb o hanes cyfathrebu o’r dulliau cynharaf hyd at yr oes ddigidol gan gofio cerrig milltir allweddol, megis chwyldro’r iaith lafar, hieroglyffau, signalau mwg, darganfyddiad y telegraff, y ffôn, y radio a’r teledu trwodd i dechnoleg gyfrifiadurol, y We Fyd-eang a’r cyfryngau cymdeithas ...

darllenwch mwy

Dwy iaith yn 'hwb i'r ymennydd'

gan lleol.net on 03/05/2012 - 12:55 pm
Categori: Newyddion

Fe allai dysgu ail iaith roi hwb i'r ymennydd, yn ôl gwaith ymchwil gwyddonwyr.
 
Mae ymchwilwyr Prifysgol Northwestern yn yr Unol Daleithiau wedi dweud bod dwyieithrwydd yn "cyfoethogi'r meddwl".
 
Mae'r gallu i siarad dwy iaith yn effeithio ar yr ymennydd a'r modd mae system nerfol y corff yn ymateb i synau, yn ôl profion labordy.
 
Roedd y tîm wedi monitro ymateb 48 o wirfoddolwyr- gan gynnwys 23 o bobl ddwyieithog - i wahanol synau.
 
O dan amodau labordy tawel roedd ymateb y ddwy garfan yn debyg.
 
Mwy o allu
 
Ond gyda chefndir mwy swnllyd roedd y grŵp dwyieithog yn llawer mwy medrus wrth brosesu synau.
 
Roedd yna fwy ...

darllenwch mwy

Baneri lliwgar yn rhoi croeso i'r Urd...

gan lleol.net on 01/05/2012 - 01:03 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Yn ystod Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr urdd Sir Benfro 2013 cafwyd cystadleuaeth i ddylunio baner yn cynrychioli gwahanol ysgolion.Roedd dros 800 o blant pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr wedi gorymdeithio drwy ganol tref Hwlffordd ddydd Sadwrn.Bu'r disgyblion yn cario'r baneri yr oedden nhw wedi eu gwneud yn yr orymdaith.Roedd y safon yn uchel iawn ac o ganlyniad rhannwyd y wobr o £500 rhwng dwy ysgol, Ysgol Brynconin ac Ysgol Clydau.'Ymdrech'Roedd y gystadleuaeth wedi ei noddi gan Western Power Distribution (WPD), ac roedd dau gynrychiolydd o'r cwmni ynni yn bresennol i feirniadu'r gystadleuaeth."Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn croesawu'r Eisteddfod i'r ardal," meddai Ale ...

darllenwch mwy

Blas yr Haf yng Nghanolfan Mileniwm C...

gan lleol.net on 01/05/2012 - 12:23 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae tymor y gwyliau banc hafaidd yn dechrau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru penwythnos yma, gyda’i gŵyl werin am ddim Dathlu Calan Mai ar y dydd Sadwrn ac i ddilyn ar y dydd Sul, hefyd am ddim, Gŵyl Dreftadaeth Butetown Bay Jazz. Mae’r diwrnodau yma’n agored i bob oed ac yn rhoi llwyfan i artistiaid o Gymru a thramor.
 
A thra rydyn ni’n sôn am wyliau’r banc, rydyn ni unwaith eto eleni yn cael ein difetha drwy gael un bach ychwanegol ym mis Mehefin. I ddathlu felly, mae’r Ganolfan wedi trefnu penwythnos yn llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan o 3 - 5 Mehefin. Bydd rhaglen lawn o artistiaid yn perfformio ar ei Glanfa o ganol dydd bob dydd, ...

darllenwch mwy

Cyfres o NEWID BYD ar S4C yn chwilio ...

gan lleol.net on 30/04/2012 - 04:21 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion

Wyt ti... ...... yn 17-18 oed?... am fynd tramor? ... am wneud gwahaniaeth?... am NEWID BYD? Mae'r ail gyfres o NEWID BYD ar S4C yn chwilio am 4 ohonoch chi! Fe fyddai cyfle i chi wneud gwaith gwirfoddol pwysig mewn gwlad tramor am 3 wythnos yn ystod yr haf hwn. Adnewyddu ysgol, gweithio gyda phlant amddifad, plannu coed neu fonitro anifeiliaid prin.Diddordeb?
Clicia YMA i lawrlwytho ffurflen gais a'r holl fanylion.01792 824567newidbyd@telesgop.co.ukDyddiad cau: 14.05.12

Ydych chi eisiau Mentro?

gan lleol.net on 20/04/2012 - 02:22 pm
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae Mentro sef Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.
 
Mae Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae Mentro hefyd yn helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.
 
Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru ...

darllenwch mwy

Rapsgaliwn a Mistar Urdd yn ennill yn...

gan lleol.net on 20/04/2012 - 07:01 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae dau o gymeriadau plant poblogaidd wedi derbyn anrhydedd yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2012.
 
Daeth y cyfeillion, Rapsgaliwn a Mistar Urdd i’r brig yn y categori Ymgyrch Marchnata gyda’r fideo newydd o’r gân Hei Mistar Urdd.
 
Roedd y fideo wedi ei chreu er mwyn hyrwyddo rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011, ac yn brosiect ar y cyd rhwng adran farchnata S4C, y cwmni cynhyrchu Boomerang a mudiad yr Urdd.
 
Mae Hei Mistar Urdd wedi bod yn anthem i genedlaethau o blant ers iddo gael ei ryddhau gyntaf yn 1976. Cyfanoddwr y gân wreiddiol oedd Geraint Davies, cyn aelod o’r grŵp gwerin Hergest a cherddor gyda Mynediad am Ddim. ...

darllenwch mwy