Wedi darganfod 26 cofnodion | Tudalen 1 o 3
Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo
gan lleol.net
on 28/12/2011 - 03:19 am
Categori: Ar-lein, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
EDRYCH YN ÔL AR 2011 - Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo
Rhai o'r digwyddiadau pwysig neu ddiddorol gafodd eu hadrodd yn ystod 2011 ar wefan BBC Cymru drwy gyfrwng fideo.
IONAWR
Aeth Craig Duggan i Feirionnydd i glywed mwy
Parhau yn fregus mae rhagolygon economaidd ac felly cynyddu mae pris aur ar farchnadoedd y byd.
Yng Nghymru mae panio am aur wedi bod yn digwydd ers canrifoedd mewn rhai ardaloedd.
Ond ar hyn o bryd nid yw panio yn cael ei ganiatáu yn un o'n ardaloedd aur enwoca' - ardal Dolgellau - oherwydd pryder am yr effaith ar yr amgylchedd.
...
Wedi cael digon o fwyta twrci? Beth a...
gan lleol.net
on 28/12/2011 - 04:53 am
Categori: Bwyd
Diolch i Sioned Mills - Sgwennu Llefenni am y Blog yma:
Unwaith eto, dwi heb fod yn blogio ers sbel, ymddiheuriade! Ond, mae’r dyddiadur bwyd dal yma er mod i ddim ddigon dewr i gyhoeddi llawer, fel esiampl mae na drychineb pobi go iawn yn dod yn y post nesa!
Dyma nhw y burgers cartref, post anhymorol arnai ofn, ond blasus tu hwnt. Sori o flaen llaw i’r llysieuwyr sy’n darllen, sgipiwch y post yma.
Heno benderfynon ni hitio’r eidion cyn y wledd Nadolig. Mae hyn i gyd wedi imi wedi cael blas go iawn ar burgers di’w coginio yn eitha amrwd yn Gourmet Burger Kitchen yn y brifddinas (mae na ddau gangen!). Mae’r rhai yn GBK yn d ...
'Carreg filltir' i gyhoeddwyr
gan lleol.net
on 27/12/2011 - 10:16 pm
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Am y tro cyntaf mae modd darllen detholiad o lyfrau Cymraeg ar declyn y Kindle.
Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi naw o nofelau poblogaidd Cymraeg yn e-lyfrau ar wefan Amazon.
Yn gynharach yn y flwyddyn dywedodd y cyhoeddwyr eu bod yn rhwystredig am nad oedd Amazon yn "gallu cyhoeddi llyfrau Cymraeg" ar y Kindle.
Roedd y wasg wedi gofyn am gyhoeddi llyfrau yn y dull hwn ers 2010 ond mae gwaith technegol yn golygu y gall Amazon gyhoeddi e-lyfrau Cymraeg. '
Yn bell'
"Yn sgil galw nifer o gwsmeriaid dros y flwyddyn rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o'n nofelau poblogaidd ar y Kindle eleni," meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa.
"Gobeithio y bydd hyn yn gyfle i ...
Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Co...
gan lleol.net
on 22/12/2011 - 04:04 pm
Categori: Newyddion
Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Corn yn byw? Dyma dy Gareth Edwards sydd yn drydanwr yn ardal y Bala. Os ydych chi yn y cyffunia rhywbryd, mae werth ei weld, ac mae hefyd yn hel tuag at elusenau gwahannol.
Rhaglenni dros y Nadolig ar S4C
gan lleol.net
on 21/12/2011 - 11:18 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Rhagflas rhai o raglenni'r Dolig ar S4C, gan gynnwys Noson Lawen Ieuenctid, Pobol y Cwm, Sioe Dolig Tudur Owen, Dim Byd, Cariad@Iaith:Love4Language, Dudley: Pryd o Ser, Jonathan, Seren Nadolig Rhos, Mel a Nia, Rhydian, Only Men Aloud a mwy.
Gwefan S4C
Dim.Cymru
gan lleol.net
on 19/12/2011 - 10:06 pm
Categori: Ar-lein, Newyddion
Neges gan Maredudd ap Gwyndaf Cyfarwyddwr, dotCYM
Gyda thristwch cysylltaf â chi heddiw i’ch hysbysu y bydd dotCYM Cyf. mwy na thebyg ddim yn gallu ceisio am barth lefel-uchaf (PLU) .cymru ar gyfer Cymru. Yn hytrach na gweithio gyda dotCYM i greu cais cryf am barth lefel-uchaf i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cwmni o Rydychen sy’n rhedeg parth .uk, Nominet, i ddod i Gymru i gystadlu yn erbyn dotCYM am gefnogaeth y Llywodraeth, gan adael iddo ladd y gystadleuaeth leol a gwarchod ei monopoli o’r farchnad parthau yn y DU. Ers 9fed Rhagfyr mae gwahoddiad cyhoeddus i unrhyw gwmni i gystadlu am berchnogaeth a rheolaeth dros yr enw Cymreig ar-lein (http://sell ...
Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers a...
gan lleol.net
on 16/12/2011 - 05:28 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers am y sioe Y Coblynnod a’r Cryddion
Mae Sherman Cymru’n dod yn ôl i’r Stiwdio dros y Nadolig gyda’u cynhyrchiad olaf cyn iddyn nhw ail agor eu drysau ddechrau 2012 ar ôl 18 mis o waith ailddatblygu.
Mae Nadolig yr hen wneuthurwyr esgidiau yn mynd i fod yn hir ac yn oer. ‘Does dim bara yn y tŷ, dim pren i’w roi ar y tân a dim arian i brynu anrhegion. Ond mae dau o’r corachod bychain yn cael syniad - ac mae un darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau. Gyda phinsiad o hud arbennig mae’r rhod ar droi - er gwell. Mae dawn Sherman Cymru o a ...
Cyfle i ennill 4 tocyn i weld Y Cobly...
gan lleol.net
on 12/12/2011 - 10:32 pm
Categori: Cystadlaethau, Newyddion
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig cyfle i deulu ennill 4 tocyn i weld Y Coblynnod a’r Cryddion ar 20 Rhagfur.
Fel anrheg Nadolig cynnar gan y Ganolfan, mae’n gyfle i’r teulu mwynhau clasur o ddrama tylwyth teg dros yr ŵyl. Gyda cherddoriaeth fyw a phypedau, bydd sioe newydd Sherman Cymru Y Coblynnod a’r Cryddion yn sicr o blesio’ch rhai bach - ac rydyn ni wedi clywed bod ambell riant wedi mwynhau hefyd.
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 16 Rhagfur.
I gystadlu, rhowch eich enw, e-bost a'ch rhif ffôn yn y blychau islaw.
Cerddorion i fynd ar 'streic'
gan lleol.net
on 06/12/2011 - 11:18 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae corff sy'n cynrychioli rhai o gerddorion Cymru'n dweud y byddan nhw'n mynd ar streic am dridiau'n ddiweddarach y mis hwn.Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru fod yr aelodau'n anfodlon iawn â'r taliadau sy'n cael eu rhoi iddyn nhw am chwarae eu gwaith ar Radio Cymru.Cafodd streic undydd ei chynnal Ddydd Gŵyl Dewi eleni.Dywedodd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru: "Er mwyn dangos ein hanfodlonrwydd â'r sefyllfa rydym am atal ein cerddoriaeth am dri diwrnod sef y 19eg, yr 20fed a'r 21ain o Ragfyr, 2011."Mynnwn newid y drefn, a chael taliad teg i gyfansoddwyr Cymru am eu gwaith."Ers tair blynedd bellach, mae llawer o gerddorion wedi gadael y byd ...
Haclediad #15 – Yr un Gaeafol
gan lleol.net
on 06/12/2011 - 12:49 am
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Rhifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!). Gobeithio gwnewch chi fwynhau.
Dolenni
Swyddi cynnwys Digidol yn S4C Adroddiad “Cofleidio’r Dyfodol”
Raspberry Pi
Spotify – API newydd wp di dw?
Path
Hacio’r Iaith 2012!
Haclediad #15 - Yr un Gaeafol [ 55:50 ] Download
&n ...


