Golwg ar Gymru
gan lleol.net
on 08/02/2012 - 10:40 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Tymor newydd Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Ar ôl bod i wyliau drama ledled y wlad a chysylltu â chwmnïau syrcas a dawns blaengar mae rhaglen tymor y gwanwyn Stiwdio Weston wedi’i chadarnhau ac ar ddechrau. Mae copïau ar gael i chi eu casglu o’r Ganolfan neu lawrlwythwch yma. Dyma rai o uchafbwyntiau’r tymor.
Theatr na n’Óg – Chwedlau Aesop
6 Mawrth
Yn addas i’r rhai ifanc yn eich mysg yn ogystal â rhieni brwdfrydig, bydd cynulleidfa Stiwdio Weston y Ganolfan yn cael cwmni llygoden, llew a chrwban. Mae natur yn gallu bod yn greulon iawn - ...
'Iaith ar waith'
gan lleol.net
on 05/02/2012 - 01:33 am
Categori: Newyddion
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth yn fuan - 'Iaith Hyfyw - Iaith i Fyw' - sy'n ceisio sicrhau bod yr iaith yn cael ei siarad a'i defnyddio bob dydd.
Un o brif argymhellion dogfen ddrafft y strategaeth oed hybu dwyieithrwydd mewn rhan o'n trefi a'n dinasoedd.
Cafodd Wrecsam ei dewis i ddechrau er mwyn parhau gyda'r bwrlwm a'r brwdfrydedd ddaeth i'r fro wrth gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2011.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, rhyw 12% o drigolion canol Wrecsam sy'n siarad Cymraeg.
Daeth llawer mwy o siaradwyr Cymraeg i'r ardal ddechrau Awst y llynedd i'r brifwyl, ac mae yna awydd yn lleol i hynny ddigwydd yn amlach.
Wrecs ...
Dathlu Dwynwen
gan lleol.net
on 24/01/2012 - 10:14 pm
Categori: Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Newyddion
Bydd Menter Caerdydd yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen mewn nifer o ffyrdd eleni - dyma flas o'r gweithgareddau!Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!DWYNWEN-O-GRAMBeth am ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen eleni trwy ddanfon Dwynwen-o-Gram i'ch gwr, gwraig neu gariad?I enwebu, ebostiwch leanne@mentercaerdydd.org gan nodi pwy sy'n haeddu'r Dwynwen-o-gram a pham!Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn tusw o flodau a photel o champagne ar Ionawr y 25ain.Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Llun, Ionawr 23, 2012.CARDIAU SANTES DWYNWENBydd Dwynwen a rhai o staff y Fenter yn dobsarthu cardiau yn y mannau canlynol ar Ddiwrnod Santes Dwtynwen, Dydd Mercher, Ionawr 2510.15am Asda Lecwydd12pm Siop Ann Summe ...
Yr Urdd yn edrych ymlaen at y degawd ...
gan lleol.net
on 24/01/2012 - 04:06 pm
Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Newyddion
Mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yn dweud bod angen i'r mudiad ddatblygu mwy o weithgareddau sy'n caniatau i blant a phobl ifanc "gael budd cymdeithasol drwy'r Gymraeg".
Mae hynny, a phenodi swyddog ieuenctid ym mhob rhanbarth, dyblu nifer y swyddogion a chlybiau chwaraeon a denu 10,000 yn rhagor o blant i gystadlu ar lefel leol yn Eisteddfod yr Urdd ymhlith y cynlluniau gan y mudiad.
Fe wnaeth Efa Gruffudd Jones gyhoeddi dogfen, "Ymlaen i'r 100" sy'n amlinellu gweledigaeth yr Urdd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.
Daw'r ddogfen yn ystod yr wythnos y mae mudiad ieuenctid mwya' Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed.
Yn ôl y mudiad, mae'n bwysog datblygu mwy o weithgaredda ...


